Digital skills help Lloyd to see things that he can’t reach on his mobility scooter

Man, sitting in a mobility scooter using a computer with a mouse

Lloyd used to work as an editor and photographer in the pre-digital world. He is now retired and is unable to walk confidently. He also struggles with his memory. Lloyd finds it tricky to not have the freedom he once had to get out and about in nature. He wanted to keep busy in his retirement and continue with editing and photography work. However, he realised that he would need support to develop digital skills to do this so he contacted Digital Gwynedd.

Digital Gwynedd provided Lloyd with a laptop. Lloyd had a smartphone but that wasn’t suitable for Lloyd’s needs. Our Project Manager Llion, helped Lloyd to link his Google accounts from his phone to his laptop.

Lloyd told us that he has a drone. He loves driving to scenic places, using the drone to film areas which are not accessible to him as a disabled person. Lloyd has amazing footage of the castles and beautiful churches he comes across on his travels; in Gwynedd and beyond. Llion has supported Lloyd to learn to edit the footage and add music to create short films of his adventures.

Recently, Lloyd had been saving money to buy a more powerful laptop with better software to play and edit his films. Lloyd is grateful that he now has the skills and confidence to continue his learning journey into the world of digital film. Lloyd has now returned the laptop we gave him and said he hoped it would help someone else who was wanting to follow their dreams.

Lloyd said “I try and learn one thing each time I come to the sessions. I find it difficult to remember things these days. I think Llion has a lot of patience with me.”


Stori Lloyd: Mae Sgiliau Digidol yn fy ngalluogi i gadw’n brysur yn creu ffilmiau o’r golygfeydd prydferthaf i helpu gyda fy anabledd

Roedd Lloyd yn arfer gweithio fel golygydd a ffotograffydd yn y byd cyn-digidol. Mae bellach wedi ymddeol ac nid yw’n gallu cerdded yn hyderus. Mae hefyd yn cael trafferth gyda’i gof. Mae Lloyd yn ei chael yn anodd gyda’i gaethiwed i fynd allan ym myd natur. Roedd am gadw’n brysur yn ei ymddeoliad a pharhau gyda’r gwaith golygu a ffotograffiaeth fel diffordeb. Fodd bynnag, sylweddolodd y byddai angen cymorth arno i ddatblygu sgiliau digidol i wneud hyn felly fe gysylltodd â Gwynedd Ddigidol.

Darparodd Gwynedd Ddigidol liniadur i Lloyd. Roedd gan Lloyd ffôn clyfar ond nid oedd yn addas ar gyfer anghenion Lloyd. Fe wnaeth ein Rheolwr Prosiect Llion helpu Lloyd i gysylltu ei gyfrifon Google o’i ffôn i’w liniadur.

Dywedodd Lloyd wrthym fod ganddo drôn. Mae wrth ei fodd yn gyrru i fannau gyda golygfeydd prydferth, gan ddefnyddio’r drôn i ffilmio mannau nad ydynt yn hygyrch iddo fel person anabl. Mae gan Lloyd luniau anhygoel o’r cestyll a’r eglwysi hardd y daw ar eu traws ar ei deithiau; yng Ngwynedd a thu hwnt. Mae Llion wedi cefnogi Lloyd i ddysgu sut i olygu’r ffilm ac ychwanegu cerddoriaeth i greu ffilmiau byr o’i anturiaethau.Yn ddiweddar, roedd Lloyd wedi bod yn cynilo ei arian i brynu gliniadur mwy pwerus er mwyn chwarae a golygu ei ffilmiau yn well. Nawr ei fod wedi’i sefydlu’n ddigidol a bod ganddo’r sgiliau a’r hyder i barhau â’i daith ddysgu a mynd i mewn i fyd fideos digidol, mae Lloyd bellach wedi dychwelyd y gliniadur a roesom iddo a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’n helpu rhywun arall a oedd am ddilyn eu breuddwydion.

Dywed Lloyd hefyd “Rwy’n ceisio dysgu un peth bob tro y byddaf yn dod i’r sesiynau. Rwy’n ei chael hi’n anodd cofio pethau y dyddiau hyn. Dw i’n meddwl bod gan Llion lawer o amynedd gyda fi.”